Canhwyllau newydd!

Ers oes rwan, rydw i wedi bod yn gweithio ar ystod o ganhwyllau ac waw doeddwn i ddim yn dychmygu y buasai'r fenter yn gymaint o waith! I rywun sydd a diddordeb edrych ar wneud canhwylla, mi wnewch chi dreulio oes yn ymchwilio ac yn ychwanegu llwyth o lynia i Pinterest, coeliwch chi fi ... 

Ers i mi rannu lluniau o'r canhwyllau ma'r gefnogaeth wedi bod yn wych! Derbynnais sawl neges fendigedig ac hyd yn oed mwy o awgrymiadau enwau i'r ddwy gannwyll siap merch. Fi feddyliodd am MONA ac ENLLI ond mi fydd yr enwa eraill a gafodd eu awgrymu yn dod yn y dyfodol, 100%. Hefyd mae'n rhaid i mi ddweud, pan rydych chi ac OND chi yn rhedeg busnes, mae mor braf cael gwybod fod eich cynnyrch neu eich syniadau hyd yn oed yn gadael argraff.

Roeddwn i'n awyddus creu ystod o ganhwyllau mytholegol fuasai'n ychwanegu at ystafell heb fod yn rhy amlwg. Penderfynais fynd am aesthetig Groegaidd - cerfluniau, lliwiau golau naturiol ac agweddau mytholegol. Mae'r canhwyllau i gyd yn drawiadol, ac yn addurno unrhyw silff, gabinet neu fy ffefryn - y bath! Mi fyddai yn creu moulds canhwyllau yn arbennig i INDI yn y misoedd nesaf ond dydw i ddim am ddweud rhagor am rwan. Un peth mi ellai ddweud ydy y bydd thema mytholegol ond yn amlycach na hynny, mytholeg Cymraeg ...

Y canhwyllau cyntaf yw cerfluniau ar ffurf merch, ENLLI ac MONA sydd o faint mwy. Mi fydd Venus a Dafydd i ddilyn ... 


Hen bost


Gadael sylwad

Cofiwch nodi, bydd sylwadau yn cael ei gwirio cyn eu cyhoeddi.