Dwi’n mynd i ddechra’ gwerthu crysa-t …
Pam? Pwy? Sut? Ti’n colli arni?
Ocê, felly cyn i mi gychwyn arni yn ateb a thrafod y cwestiyna’ uchod, dwi am hedfan drwy’r misoedd dwytha’n sydyn. Dwi’n meddwl bod angen g’neud hynny er mwyn i chi sy’n darllen, gael rhyw syniad go lew o sut gyrhaeddais i lle ydw i ‘rwan. Dwi’n teimlo fod synfyfyrio am y gorffennol yn gallu bod yn brofiad adeiladol ond gan gofio peidio canolbwyntio arno’n rhy hir. Beryg i’r synfyfyrio droi’n emosiynol ac mae’n anodd iawn dianc ohono pan mae eich ymennydd ar chwâl. Hefyd os ydy gweld fy mhrofiad i wedi’i ‘sgwennu lawr yn eich helpu chi, i wneud ychydig mwy o synnwyr o’r llanast a fuodd 2020 hyd yn hyn, wel mi fyddai’n falch.
Roedd fy niwrnod gwaith olaf i ym mis Ebrill. Roedd y contract yn fod i orffen diwedd Chwefror ond roedd dal tipyn o waith i’w wneud ar y gyfres ac ro’n i’n falch iawn am hynny. Sylweddolais i yn bersonol, ar ddifrifoldeb y sefyllfa byd-eang ar Fawrth yr 16eg. Mae’n ddiwrnod na wnai fyth anghofio. Roeddwn i wedi gyrru i’r gwaith, wedi cerdded at ddrws y swyddfa ond doedd y ffob ar fy ngoriad ddim yn agor y drws. Ffoniais un o’r gweithwyr a dywedodd nad oedd y swyddfa am agor heddiw, oherwydd roedd gweithiwr arall newydd gysylltu yn esbonio eu bod nhw ac aelod o’r teulu yn dangos symptomau o’r coronafeirws. Penderfynais fynd am Asda i gael nwydda’ glanhau. Roedd mam wedi crybwyll ein bod ni angen y fath bethau, felly mi es i yno cyn gyrru adref i weithio yn fy llofft.
Er mwyn i mi esbonio pa mor brysur oedd Asda, roedd o’n fy atgoffa i o’r orymdaith annibyniaeth es i iddi mis Gorffennaf dwytha’. Doedd yna ddim papur toiled, dim sdwff golchi dwylo, dim blawd na phasta ac roedd cig ffresh yn brin - mi oedd hi’n nyts. Daeth yna ddynes ataf wrth i mi syllu ar y silffoedd, yn sganio am sdwff ‘llnau worktop. Mi roddodd hi ddarn o bapur i mi gyda dau linc fideo wedi sgriblo arna nhw yn flêr mewn pensil. Esboniodd ei bod hi’n credu mai Bill Gates oedd yr ‘engineer’ tu nôl i’r feirws …
Wnes i ddim cymryd y papur (rhag ofn lledaenu), gofynnais os fyswn i’n cael tynnu llun ac wedyn mi es i ona’n reit sydyn a chario ‘mlaen siopa. Gafaelais mewn weips anti-viral a sdwff llnau fel arall, wedyn gneud fy ffor i’r checkout. Mi dagodd dyn canol-oed yn y rhes talu hefo peiriant ac mi wnaeth y bobl o nghwmpas i ymateb fel tasa fo di rhoi cic i gath. Hollol bizarre. Ers y diwrnod hwnnw, dydy petha’ heb fod yr un peth a dwi’n siwr y bydd gan y mwyafrif ohona ni atgof tebyg o ddiwrnod penodol. Diwrnod ble sylweddolodd llawer nad oedd 2020 yn mynd i fod ‘y flwyddyn’ wedi’r cwbl.
Ers gorffen y contract mis Ebrill, rydw i wedi gwneud comisiwn creadigol i’r Amgueddfa Genedlaethol, cychwyn sgript a gwneud cais am gwrs meistr. Rhwng y prosiecta’ bach yma, dwi wedi bod yn ceisio am swyddi, darllen, ‘sgwennu, gwylio ffilmiau a rhaglenni dogfen. Er fy mod i’n ceisio cadw’n brysur a datblygu sgiliau mae’n teimlo fel taswn i’n taro wal frics drosodd a throsodd, gan nad ydw i go iawn yn mynd i nunlla’. Dwi wedi ceisio bod yn ddefnyddiol gyda fy amser drwy ddysgu fy hun am ffurf ffilm, ymchwilio sut i ysgrifennu ar gyfer y sgrîn a mynychu sgyrsia dros y wê, er mwyn ceisio paratoi ar gyfer gwaith yn y diwydiant creadigol, pan gaiff hynny ei ganiatau. Ac fel bawb arall, dwi wedi bod yn gwylio’r newyddion ac yn sgrolio Twitter yn ddyddiol, bosib ormod, yn darllen y newyddion diweddara. Cefais fy nerbyn ar y cwrs meistr ond yn anffodus gan fy mod i’n byw yng Nghymru ac nid yn Lloegr, doeddwn i ddim yn gymwys i dderbyn benthyciad. Deufis o feddwl modi’n llunio llwybr cyffrous i fy nyfodol, yn hytrach roeddwn i’n taro’r wal frics eto. Mi wnaeth canlyniad y cais frifo go iawn, mae’n rhaid i mi gyfadda’ ond yn y pen draw - a fyswn i wedi llenwi cais am gwrs meistr os na fyswn i yn sownd adra, yn 22 oed yng nghanol pandemic? Dydw i ddim yn rhy siwr o hynny.
Fel mae llawer o bobl ifanc wedi mynegi dros y misoedd dwytha’, dwi’n teimlo mai ond bodoli ydw i. A gyda’r holl sôn ddi-ddarfod am gyfnod clo arall yn gysgod uwch fy mhen, penderfynais mai’r cam nesa’ i mi oedd taflu fy holl amser, egni ac arian i mewn i ymgyrch newydd.
Wrth grybwyll posibiliadau a cheisio penderfynu beth oedd INDI yn mynd i fod, roeddwn i’n gwybod mod i eisiau cychwyn ar y droed gywir sef cysidro cynaliadwyedd. Credaf fod yn rhaid i bob person sydd eisiau cychwyn busnes heddiw feddwl yn galed am gynaliadwyedd a’i flaenoriaethu. Mae ein ystod gwybodaeth ni am ein planed yn fwy eang nac erioed ac mae’n rhaid i ni gymeryd camau i leihau’n effaith ar yr amgylchedd.
Crysau-t, dyma’r eitem gyntaf yn fy siop. Cotwm 100% organig sydd wedi ei dyfu heb gemegau yn llygru afonydd ac wedi ei drîn mewn awyrgylch saff - golygai hyn nad oes gwenwyn yn yr awyr, nac yn yr inc yn llifo o’r ffatri i’r dŵr nac yn cael ei anadlu gan y gweithwyr. Mae gan y crys-t dystysgrif Fair Wear Foundation sydd yn golygu fod y gweithwyr yn cael eu talu’n deg ac fod y ffatrïoedd yn cael eu hasesu’n aml. Mae’r agweddau rydw i wedi rhestru uchod yn gwneud i’r crysau-t gostio’n sylweddol ond y gwir yw, os ydw i eisiau cynnyrch ethical, safonol, sydd heb achosi niwed i’r blaned, caiff y gôst ei gyfiawnhau.
Nawr fy mod i wedi cael hyd i gynnyrch cynaliadwy sydd yn gweithio i fy musnes, gallaf ganolbwyntio ar fy nghryfder a’r darn hwyl, sef bod yn greadigol a dylunio crysau t! Mae’n gymaint o hwyl ‘sgwennu syniadau ar fwrdd gwyn. Yn ystod amser cinio neu amser panad, mae’n braf gweld dad neu mrawd yn mynd at y bwrdd gwyn yn y gegin a chynnig syniad arall arno cyn cael eu llusgo’n ôl i fwy o gyfarfodydd a thrafod ystadegau.
Felly i grynhoi. Pam fy mod i’n dylunio a gwerthu crysau-t? Gan fod cychwyn busnes yn apelio ac rydw i angen cal ffordd o ryddhau fy egni creadigol, neu mi fuasai fy llofft yn troi yn garchar o walia ‘di sgriblo a post-its ar fy nhalcen yn y bora’. (Dwi’n meddwl y gwnaiff awduron ddeall honna.) Pwy? Fi, ond y fi ar y funud ond cofiwch mai ond un person gychwynodd Nike hefyd. Sut? Gwylio fideos ar y wê fel cyfres Megan o gwmni Pethau, sgyrsia’ hir hefo dad, a defnyddio arian wnes i arbed o weithio yn Co-op tra roeddwn i’n astudio yn York. Ydw i’n colli arni? Ydw, yn bendant heb os nac oni bai. Ond dachi’n gwybod be? Dwi’m yn meddwl modi ‘rioed ‘di cha’l hi i ddechra …