Amdana ni

Sefydlwyd INDI gan unigolyn ac yn parhau i gael ei redeg gan yr un person hwnnw, Mirain Rhisiart. Mae hi'n dod o dref diwydiannol Blaenau Ffestiniog ac yn mwynhau sgwennu, gwylio ffilmiau a mynd am dro fyny mynydd. Ennillodd Mirain radd mewn Theatr o brifysgol Efrog yn 2019 ac ers hynny, mae hi wedi gweithio ar ddwy raglen boblogaidd ar S4C, Gwesty Aduniad ac Helo Syrjeri. Yna, roedd sôn am feirws yn mynd rownd. Felly roedd hyn yn golygu fod Mirain yn sownd adra yn ceisio cynllunio ac ysgrifennu sgript. Dydy'r sgript dal heb gael ei orffen. Yn hytrach na hynny, sefydlwyd INDI.