Cynaliadwyedd

Mae'n hen amser i ni newid ein ffordd o fyw. Mae angen gorfodi ail-gylchu yn bob man (nid ond yn y catref) ac ail-ddefnyddio ble bo' modd drwy annog plant yr un pryd. 

Yn rhy aml, rydym yn troi ein trwynau ar gynnyrch eco-gyfeillgar oherwydd eu hedrychiad plaen, y gôst ac o brofiad personol, ddim yn ateb y broblem ond yn creu un arall. Sefydlwyd INDI ar yr egwyddor o greu cynnyrch eco-gyfeillgar effeithiol sy'n dod a llawenydd i'r defnyddiwr wrth gael fawr i ddim o effaith ar yr amgylchedd.

Mae ein crysau-t cotwm wedi'w gwneuthuro o 100% o ffynonellau moesegol, maent yn hynod feddal ac yn para 3 gwaith yn hirach na chrys t nodweddiadol ar y stryd fawr. Hyn i gyd heb niweidio unrhyw ecosystemau.

Pan fydd cynnyrch INDI yn eich dwylo (o'r diwedd) ni fydd cael gwared o'r parsel a'r cardyn busnes ddim yn waith ychwanegol. Mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol fod y pecynnau bwyd rydym ni'n ei brynu tra rydym ni allan o'r tŷ ac y pôst rydym ni'n ei dderbyn yn wastraff yn y pen draw, gwastraff rydym ni'n gyfrifol amdano. Bydd pob elfen o'r pecynnu yn gallu cael ei ail-gylchu. Mae'n bwysig i ni yn INDI nad ydym ni'n symud gwastraff o un lle i'r llall ac eich bod chi yn gallu cael gwared o'r pecyn yn hawdd heb achosi niwed e.e drwy roi polymailer plastig yn y bin.

Bydd INDI yn lawnsio bagiau cotwm a nwyddau yfed yn y dyfodol agos felly cadwch olwg! Dydy chi ddim eisiau colli'r cyfle ...